Mici Plwm

Mici Plwm, Rheolwr Berchennog, Digwyddiadau MP Events

Mae Mici Plwm yn adnabyddus am ei dalentau amrywiol a'i gyfraniad gwerthfawr i fyd adloniant fel diddanwr, actor, ysgrifennwr, cyflwynydd, cyfarwyddwr a chynhyrchydd radio, teledu a'r theatr a rheolwr grwpiau roc a gwerin. Am ddwy flynedd bu'n Gyfarwyddwr Artistig Theatr Ardudwy, Harlech, Gwynedd pan roddwyd ei dalentau amlwg ar waith y tu ôl ac o flaen y llwyfan.

Dros y blynyddoedd enillodd brofiad eang o drefnu, cynnal, arwain ac hyrwyddo digwyddiadau amrywiol led led Cymru. Yn sgìl ei waith yn cydlynu prosiectau cymunedol a gweithgareddau cymdeithasol mae ganddo wybodaeth drwyadl o ddenu grantiau a chodi nawdd.

Yn gyfathrebwr naturiol, datblygodd gysylltiadau agos gyda'r wasg a'r cyfryngau. Mae wedi gweithio gyda'r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol ac wedi meithrin perthynas gyda rhwydweithiau ehangach yn lleol ac yn genedlaethol.

Gyda'r galw cynyddol am arbenigedd ym maes cynnal digwyddiadau, sefydlodd Mici gwmni Digwyddiadau MP Events yn 2003 er mwyn diwallu anghenion y gwahanol sectorau, byd busnes ac adloniant. Erbyn hyn mae'r cwmni yn ffynnu.

“Ein prif nod yn Digwyddiadau MP Events yw cynnig gwasanaeth o safon i gwmnïau a sefydliadau ar gyfer trefnu unrhyw ddigwyddiad.  Gyda’n tîm deinamig, ymroddgar rydym yn barod i wynebu unrhyw sialens ac i sicrhau llwyddiant I’n cleient.”

Diolch am alw draw, a chofiwch os oes gennych unrhywbeth i'w drefnu ac am gael graen arnynt cysylltwch â ni.

 

The Events Services Association

Digwyddiadau MP Events, Barcud Derwen, Stad Ddiwydianol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd LL55 2BD
 
Dylyniwyd gan Delwedd