- Cynadleddau a seminarau
- Rheolaeth digwyddiadau ac arddangosfeydd
- Digwyddiadau corfforaethol
- Lawnsio cynnyrch
- Seremonïau gwobrwyo
- Hyrwyddo
- Adloniant a llawer mwy…
O'r cyfarfod cyntaf hyd at ddiweddglo llwyddiannus, fe fyddwn ni yn cymryd y cyfrifoldeb o chwilio am leoliadau a siaradwyr, trefnu llety, teithio a chludiant, dynodi a chynllunio, llwyfannu, goleuo a sain, arlwyo, staffio, gweinyddiaeth, pecynnau dirprwyon, bathodynnau, arwyddion… beth bynnag fo eich anghenion rydym ar gael i gynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth.
P'run a yw'n seremoni wobrwyo ddisglair, cynhadledd proffil uchel, sioe symudol neu fforwm busnes i fusnes, digwyddiad lletygarwch corfforaethol, ymarferiad adeiladu tîm neu lawnsiad cynnyrch, bydd tîm proffesiynol ac ymroddedig Digwyddiadau MP Events yn sicrhau llwyddiant yr achlysur.
Pa un ai yw eich cynulleidfa yn 10 neu 10,000 mewn nifer fe fyddwn yn rhoi yr un sylw i fanyldeb er mwyn sicrhau llwyddiant eich digwyddiad.
Rydym yn cynnig gwasanaeth dwyieithog llawn ac mae gennym ddealltwriaeth eang o faterion diwylliannol y rhanbarth.
Gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda'r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, y celfyddydau a'r cyfryngau, gall Digwyddiadau MP Events drefnu eich digwyddiad chi.
Diolch am alw draw, a chofiwch os oes gennych unrhywbeth i'w drefnu ac am gael graen arnynt cysylltwch â ni.
|